Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2020
Amser:
09.30 -
11.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11145
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Julian Revell, Llywodraeth Cymru Sarah Govier, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN1 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Data cwynion y GIG - 26 Tachwedd 2020
2.11 PTN2 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Data cwynion y GIG - 1 Rhagfyr 2020
2.3 PTN3 - Llythyr gan GolegauCymru: Ffyrlo - 4 Rhagfyr 2020
2.4 PTN4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Ymgynghoriad ar God Asesu Effaith Rheoleiddiol (AERh) diwygiedig - 8 Rhagfyr 2020
2.5 PTN5 - Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - Dadl ar yr Egwyddorion Cyffredinol - 9 Rhagfyr 2020
3 Effaith adolygiad Llywodraeth y DU o wariant: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Trysorlys Cymru; a Sarah Govier, Pennaeth Polisi Gwariant Cyhoeddus ar effaith adolygiad Llywodraeth y DU o wariant.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ddarparu nodyn, yn rhestu’r hyn y gwariwyd cyfalaf trafodiadau ariannol arno yn 2020-21.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Effaith adolygiad Llywodraeth y DU o wariant: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Materion allweddol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol.
7 Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau sy'n ymwneud â’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn friffio dechnegol anffurfiol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir ar 21 Rhagfyr.